WILLIAM HENRY OWENOWEN - WILLIAM HENRY (Harry) Medi 4ydd, 2009 yn dawel yn ei gartref Fron Goch, Llangristiolus yng ngofal caredig ei deulu yn 75 mlwydd oed, priod annwyl a ffyddlon Elsie, tad caredig Einir ac Elfed, taid addfwyn i Elis, tad yng nghyfraith Vaughan, brawd hoff John a'r diweddar Jim, brawd yng nghyfraith Marian. Bydd yn golled enfawr i'w deulu a ffrindiau oll. Angladd dydd Iau Medi 10fed, preifat ar yr aelwyd i'r teulu agos yn unig am 10.30 y bore. Gwasanaeth cyhoeddus yn Eglwys Sant Cristiolus, Llangristiolus am 11.00 y bore. Rhoddir i orffwys ym mynwent newydd Llangristiolus. Blodau teulu yn unig, derbynnir rhoddion yn ddiolchgar tuag at Meddygfa Coed y Glyn a Ymchwil Cancr trwy law'r Ymgymerwr Melvin Rowlands , Minafon, Stryd yr Eglwys, Llangefni. LL77 7DU Ffon: 01248 723111.
Keep me informed of updates